Dr Jonathan Morris
  • HAFAN / HOME
  • CYMRAEG
    • Ymchwil
    • Siaradwr Gwadd
    • Cynadleddau
    • Cyhoeddiadau
    • Addysgu
    • Ymgynghori ac Ymgysylltu
  • ENGLISH
    • Research
    • Guest Speaker
    • Conferences
    • Publications
    • Teaching
    • Consultancy and Engagement
  • HAFAN / HOME
  • CYMRAEG
    • Ymchwil
    • Siaradwr Gwadd
    • Cynadleddau
    • Cyhoeddiadau
    • Addysgu
    • Ymgynghori ac Ymgysylltu
  • ENGLISH
    • Research
    • Guest Speaker
    • Conferences
    • Publications
    • Teaching
    • Consultancy and Engagement

Ymchwil

Themâu Ymchwil

Amrywio ffonolegol a seinegol yn lleferydd siaradwyr dwyieithog

Canolbwyntia fy ngwaith ymchwil yn bennaf ar amrywio ieithyddol a newid (neu dafodieitheg gymdeithasegol) yn lleferydd siaradwyr dwyieithog Cymraeg-Saesneg. Mae nifer o ddatblygiadau cymdeithasol yn yr ugeinfed ganrif wedi effeithio ar ddemograffeg siaradwyr y Gymraeg. Yn gyntaf, mae mewnfudo a shifft ieithyddol wedi arwain at ddirywiad yn y nifer o siaradwyr sydd yn caffael y Gymraeg ar yr aelwyd, yn enwedig mewn ardaloedd y Fro Gymraeg draddodiadol. Yn ail, ceir cynnydd yn y nifer o ‘siaradwyr newydd’ sydd yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Cwestiwn a godir yn fy ngwaith yw i ba raddau y mae ffactorau ieithyddol ac all-ieithyddol (megis rhyw, sefyllfa'r Gymraeg yn y gymuned, ac iaith ar yr aelwyd) yn dylanwadu ar amrywio seinegol a ffonolegol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Rwyf yn cymhwyso ymchwil flaenorol ym maes sosioieithyddiaeth at ddwyieithrwydd, felly, ac yn cymharu sut y mae siaradwyr yn cynhyrchu eu dwy iaith.

Dengys fy ngwaith mewn cymunedau yng Ngogledd Cymru (fel rhan o’r PhD) ac yn Ne Cymru (gyda Robert Mayr, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac Ineke Mennen, Prifysgol Graz) y cynhyrchir rhai nodweddion seinegol yn yr un modd yn y ddwy iaith o ganlyniad i gyffyrddiad hir-dymor rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rwyf hefyd wedi dangos, fodd bynnag, bod ffactorau all-ieithyddol yn dylanwadu ar ynganiad rhai nodweddion ieithyddol. Trwy ddadansoddi arferion iaith ac ymagweddau’r siaradwyr tuag at eu hieithoedd, rwyf wedi dadlau y gellir gweld perthynas rhwng defnydd o amrywiolion penodol a hunaniaeth y siaradwr.

Cymdeithaseg dwyieithrwydd

Mae gennyf ddiddordeb mewn cymdeithaseg iaith. Rwyf wedi cyhoeddi ar ymagweddau tuag at y Gymraeg a'r defnydd ohoni ymhlith pobl ifanc yng Ngogledd Cymru ac rwyf hefyd wedi bod yn rhan o brosiect ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru ar drosglwyddo'r Gymraeg. Enw’r prosiect hwn yw Ymchwil i’r amodau sydd yn dylanwadu ar arferion teuluoedd mewn perthynas â throsglwyddo a defnyddio’r Gymraeg  (Rhif Contract C86/2015/16). Gweddill y tîm yw Dr Jeremy Evas (Prif Ymchwilydd, Ysgol y Gymraeg), Yr Athro Lorraine Whitmarsh (Ysgol Seicoleg) ac eraill.

Caffael y Gymraeg fel ail iaith

Rwyf wedi cyhoeddi erthygl ar ymagweddau tiwtoriaid Cymraeg i Oedolion tuag at ynganu dysgwyr (gyda Dr Iwan Wyn Rees) ac wedi edrych ar sut y mae dysgwyr yn ynganu'r Gymraeg. Yn ehangach, mae gennyf ddiddordeb yn nylanwad ffactorau cymdeithasol a seicolegol ar gaffael ieithoedd lleiafrifol.

Prosiectau Cyfredol

  • ACC: Adnodd Creu Crynodebau gyda Dr Dawn Knight (Caerdydd) a Dr Mo El-Haj (Caerhirfryn).
  • Prawf Darllen Caerdydd gyda Dr Rosanna Stenner, Dr Geraint Palmer, a Dr Dylan Foster Evans (Caerdydd).
  • Amrywio arddulliadol a chaffael cymhwysedd sosioieithyddol yn y Gymraeg gyda Dr Mercedes Durham a Katharine Young (Caerdydd).
  • Canfyddiad rhaganadlu yn lleferydd siaradwyr Cymraeg gyda Dr Míša Hejná (Aarhus).
  • Gwerthusiad cymdeithasol acenion Cymraeg gyda Dr Robert Mayr (Met Caerdydd), Dr Iwan Wyn Rees a Nia Eyre (Caerdydd).
  • Ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy'n dylanwadu ar ymagweddau dysgwyr y Gymraeg gyda Dr Charlotte Brookfield (Caerdydd).
  • Hunaniaethau Croestoriadol: Siaradwyr LHDTC+ y Gymraeg gyda Dr Sam Parker (Birmingham City University) ac ieithoedd Celtaidd eraill gyda Dr John Walsh (NUI Galway) a'r Athro Michael Hornsby (AMU Poznań).
  • Anatomeg y Gymraeg: Gweld ynganiadau'r Gymraeg gydag MRI gyda Dr Leandro Beltrachini, Prof. Mara Cercignani, Dr Adam Partridge, Dr Iwan Wyn Rees, a Dr Andreas Papageorgiou (Caerdydd).
Powered by Create your own unique website with customizable templates.